BWR038 (LP/CD/DL) Limited Edition Translucent Purple Marble Vinyl  (Digital Download Included)

Y Gwyfyn’, record fer newydd i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2018. Mae’r record yn cynnwys traciau newydd a deunydd sydd heb gael ei ryddhau o’r blaen yn ogystal â thrac o Ruins/Adfeilion, albwm buddugol y Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2017.

Mae’r record fer yn dilyn trywydd tebyg i’r albwm, gyda byd natur, hunaniaeth ddiwylliannol a sylwebaeth gymdeithasol yn ymddangos yn themâu blaengar. Mae’r trac agoriadol yn dychmygu taith gwyfyn ar noswaith dwym o haf, tra bod ‘Briwsion’ yn beirniadu anghyfiawnder cymdeithasol yn y byd modern. Ceir hefyd cyfieithiad Gymraeg o’r gan boblogaidd ‘The Fisherman’, a fersiwn newydd sbon o’r alaw draddodiadol ‘Cariad Cyntaf’. Mae’r record fer yn cau gyda ‘Golwg y Gwdihŵ’, trefniant cerddorol sy’n cynrychioli golygfa o goedwig gyda’r nos recordiwyd yn wreiddiol fel rhan o brosiect ar gyfer Amgueddfa Cymru.

Mae’r record fer wedi dal perfformiadau arbennig gan rhai o gerddorion gorau Cymru, gan gynnwys y drymiwr Jack EgglestoneCallum Duggan ar y bas dwbl a llais hyfryd Georgia Ruth. Ceir hefyd trefniannau llinynnol arbennig Seb Goldfinch wedi eu perfformio gan bedwarawd llinynnol y Mavron Quartet.