Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2014
Hoffwn ddweud diolch o galon i’r Eisteddfod am wobrwyo ‘Y Bardd Anfarwol’ yn Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2014. Doeddwn i wir ddim yn disgwyl ennil pan gyhoeddwyd yr enillydd ar faes yr Eisteddfod nos Iau diwethaf! Roedd cymaint o gerddoriaeth da ar y rhestr fer, ac dwi’n credu bod hwn yn adlewyrchu sin gerddorol bywiog a frwdfrydig yma yng Nghymru.
Mae’r tlws gan Ann Catrin Evans yn edrych yn wych hefyd!
Dw’i moyn dweud diolch i’r bobl wnaeth gweithio ar yr albwm – hebddynt ni fyddai’r albwm yn bodoli.
Diolch!
Diolch o galon i Llion Robertson, a wnaeth job mor anhygoel o gynhyrchu’r albwm ac i Seb Goldfinch am sgwennu trefniannau wefreiddiol ar gyfer y llinynnau, ffliwt a offerynnau Tsieiniaidd. Diolch hefyd i’r holl gerddorion wnaeth chware ar yr albwm, o’r Chengdu Associated Theatre of Performing Arts, i’r UK Chinese Ensemble yn Llundain, Y Mavron Quartet, Richard James, Callum Duggan yng Nghymru, A Laura J Martin o Lerpwl.
Hoffwn ddiolch hefyd i Richard Chitty a Bubblewrap Collective, hebddyn nhw mae’n bosib na fyddai’r albwm wedi cael ei ryddhau, ac roedd yn bleser gweithio gyda nhw arni. Rhaid diolch hefyd i’r British Council ac i PRSF am fy newis ar gyfer y cyfnod preswyl yn Tsieina yn y lle cyntaf, ac i Celfyddydau Rhyngwladol Cymru am fy ngefnogi i fynd allan yna.
Yn olaf hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy longyfarch yn bersonol neu ar y we dros y dyddiau diwethaf, mae’r ymateb wedi bod yn gynnes iawn ac dwi’n teimlo’n hynod o ffodus.