Skip to content

GALARGAN

Mae’r record yn dechre yn y dechre, ar doriad y wawr. Yn nodau agoriadol y gitâr, r’yn ni’n clywed y gwlith, yn berlau bychain ar wyneb y dail; sŵn y gwanwyn yn gwthio’i hunan lan o’r pridd; a’r cerddwr (neu falle’r cerddor!) – yn unig, ond yn hapus – yn mynd am dro drwy’r cynefin sy’n annwyl iddo.

Ife heddiw ma’ hyn yn digwydd? Neu amser maith, maith yn ôl?
(Weithiau, mae’r hen bethau’n teimlo’n fwy newydd na’r newydd.)
Beth bynnag, bore hapus yw’r bore hwn.
Yn dirion ar doriad y dydd…
A ni’n ffeindio’n hunan yn gofyn: lle galle galar ffitio mewn byd sydd mor wyrdd, mor llawn o obaith a golau?
Yn y freuddwyd hon, lle mae’r ofn?
Ond mae pethau tawel yn cynnwys tywyllwch hefyd.
Mae cysgodion yma.

Galargan: hen ganeuon, wedi’u gosod a’u dehongli gan y cerddor pan oedd y byd dan glo, pan oedd pethau fel colled, anobaith ac ofn yn teimlo’n fwy real nag erioed. Pan roedd pobol annwyl yn diflannu. Pan roedd dicter yn cymysgu hefo’r dŵr, a phawb jyst yn teimlo fel se’ nhw’n sgrechian fewn i’r düwch…

Mewn cyfnodau fel hyn, pan s’dim geiriau, mae’r hen ganeuon yn awgrymu eu hunain: wastad yn berthnasol, wastad hefo rhywbeth newydd i ddatgelu.

Daw llawer o ganeuon Galargan o gasgliadau ac ysgrifau amhrisiadwy Meredydd Evans a Phyllis Kinney yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Nid Wyf yn Llon, er enghraifft – cân a ganwyd gan garcharor yng ngharchar Dolgellau.

Ni’n clywed ei lais e, mor gryf yn y geirie:

Mewn stafell lle nad oes haul, lle ma’ canu’r adar a deffro’r gwanwyn ond yn atgof pell trwy waliau damp hen gell.

A ni’n cael ein hatgoffa, falle, o ganeuon Townes Van Zandt.

(Neu o’n profiadau ein hunain, yn y misoedd cyntaf ‘na, nol yn 2020.)

Pan yr haul belydra / Brig y don oreura / Nid yw byth er maint ei glod / yn treiddio’r gwaelod isa’

Mae’r anobaith yn ein cyrraedd ni ar draws y canrifoedd; am eiliad, ni’n teimlo cysylltiad mor gryf gyda’r dyn dienw hwn…

Bron, fel ‘se ni’n rhannu’r gell gydag e.

Falle mai naturioldeb y gerddoriaeth sy’n creu’r lledrith hyn. Wedi’u crefftio mewn cegin yng Nghaerdydd, ac mewn bwthyn mâs yn eangdiroedd gwyllt Cwm Elan (lle’r oedd y cerddor hefo neb ond ei hunan yn gwmni iddo), mae trefniant y caneuon yn syml. Weithie, ni’n clywed y sielo – fel yr haul yn dod mâs o du ôl i’r cwmwl, yn llenwi’r byd gyda disgleirdeb eto – ond, y gitâr a’r llais sy’n gyson, ac yn drawiadol.

R’yn ni’n rhyfeddu, ar un pwynt, ar y chwarae gitâr ar gasgliad o alawon – Set Bob (mewn teyrnged i’r cerddor Robert ‘Bob’ Evans o Benllwyn) – sy’n plethu’r tywyll hefo’r golau mor gywrain, ac yn atgoffa ni o ddoniau Gareth Bonello fel offerynnwr.

Ymlaen â ni, eto, trwy wyrddni rhyw fore ddisglair arall ar Pan Own y Gwanwyn, gyda’r alaw annaearol na, sy’n gwrthod pob ymdrech i’w dala hi. Ac at un o fy hoff ganeuon erioed, Beth Yw’r Haf I Mi: sy’n swnio bron fel cân fado yn fan hyn, gyda’i felancoli hyfryd, a’r geiriau anfarwol gan T.H. ac Amy Parry-Williams.

Beth yw’r haf i mi, os yw’r galon fach ar dorri’n ddwy?

I gwpla, mae Dafydd y Garreg Wen.

Teyrnged, medd Gareth, i bawb sydd wedi mynd.

Ond be sy’n dod ar ôl galar?

(Ma’ llais yng nghefn y stafell yn sibrwd mai golau yw’r ateb.)

Ac ma ‘na sicrwydd tawel, ma’ ‘na gysur.

Yn dawel bach, r’yn ni’n taflu’r ffenest ar agor led y pen.

A ni’n gwybod, wedyn, fod y gwanwyn yn dod nôl; ni’n gweld pwrpas a gwirionedd yr hen garolau Mai.

Mae’r ddaear yn glasu, yn dawel, yn dirion: trwy ganu a chwarae cerddor sy’n rhadlon hyd yn oed wrth ddelio ‘da’r pethau tywyll.

Y daioni tyner.

The Gentle Good.

Georgia Ruth, March 2023

1. Pan own i ar foreddydd

Amrywiad ar ‘Y Bore Glas’ a’r alaw ‘Tritharawiad Trichwmwd’ yn ôl Phyllis Kinney. Mae digon o debygrwydd yn y llinellau cyntaf i’r alaw Saesneg enwog ‘Early One Morning’, sy’n dyddio yn ôl i’r deunawfed ganrif o leiaf. Canu morwyn sy’n denu sylw’r adroddwr yn y traddodiad Saesneg, ond yn y Gymraeg y Deryn Du Pigfelen yn ‘tiwnio ar gangen y gwŷdd’ sy’n swyno. Daeth y fersiwn yma o archif Meredydd Evans a Phyllis Kinney yn y Llyfrgell Genedlaethol a diolchaf yn arbennig i Gwenan Gibbard am ei chyflwyno i mi.

2. Nid wyf yn llon

Mae’r gân hon yn cynnig teitl amgen i’r albwm cyfan ac yn adlewyrchu’r prif themâu ynddo hefyd. Casglwyd hi oddi wrth ‘canu meddwyn’ gan warden yng ngharchar Dolgellau yn ôl y llawysgrif yng nghasgliad Merêd a Phyllis. Mae’n sôn am iselder ac annigonedd pleserau a chysuron dros dro, sydd byth yn ‘treiddio’r gwaelod isaf’. Cân am gaethiwed o wefusau carcharor yw hon, a thema addas i’r panedmig yn troelli ar yr eiriau llwm a’r alaw leddf.

3. Mae’r Ddaear yn glasu

Carol Mai neu Carol Haf yw’r alaw drawiadol yma, a fyddai’n cael ei ganu yn gyhoeddus o amgylch Gŵyl Calan Mai. Casglwyd yr alaw gan John Owen o Ddwyran, Sir Fôn o ganu Robert (Robyn) Hughes, Crydd o Rhengc Fawr. Mae geiriau John Howel (Ioan Glandyfroedd, 1774-1830), yn peintio darlun bywiog o’r gwanwyn gydag adar yn canu a pherllannau llawn blodau. Mae trywydd y gân yn newid yn y pennill olaf, gyda’r geiriau’n cario neges ddyngarol sydd mor berthnasol ag erioed;

Mae’r ddaear fawr ffrwythlon a’i thrysor yn ddigon,
i borthi’i thrigolion yn dirion bob dydd,
pe byddem ni ddynion mewn cyflwr heddychlon,
yn caru’n un galon ein gilydd

4. Set Bob

Tair alaw o’r traddodiad Cymreig; Erddigan y Pibydd Coch / Tri a Chwech / Marwnad yr Heliwr, adnabyddwyd hefyd fel ‘Set Bob’ neu ‘Triawd Bob Evans’ mewn teyrnged i’r cerddor Robert Evans o Benllwyn. Mae Robert bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn perfformio cerddoriaeth ganoloesol o Gymru ar y Crwth gyda’r gantores Mary-Anne Roberts yn eu band Bragod. Roeddwn arfer mynychu sesiwn yn nhafarn y Mochyn Du yng Nghaerdydd, ble chwaraewyd y set o bryd i’w gilydd.

Erddigan y Pibydd Coch – Hen alaw i’r bibgod sy’ ymddangos yng nghasgliad Edward Jones ‘Relics’ (1784), ‘Specimens’ Dr Crotch (1808) a ‘Gems of Welsh Melody’, John Owen (Owain Alaw, 1860). Tri a Chwech – Alaw arall ar gyfer y bibgod o ‘Gasgliad Lewis Roberts’, mae’r ‘tri a chwech’ siŵr o fod yn dynodi tri swllt a chwe cheiniog. Marwnad yr Heliwr – Alaw o ‘Gasgliad Lewis Jones’ sydd hefyd yn ymddangos yng nghasgliad Owain Alaw (1860). Awgryma Bob bod sŵn y corn hela yn cael ei dynwared ar ddechrau’r diwn, gan beri i’r dychymyg droi at ‘carnau ceffylau, llef y cŵn a gwatwar yr anti-hunt protestors hefyd’. Mae’r tair alaw ar dudalennau 170 a 171 casgliad Owain Alaw; ‘Gems of Welsh Melody’.

5. Pan own y gwanwyn

Rhyfeddod o diwn o gasgliad Maria Jane Williams, ‘Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg’ (1842). Mae’n debyg mae ‘Pan Own ni’n Fachgen Ieuanc Llawen’ oedd y teitl yn wreiddiol cyn i Maria Jane Williams anfon y nodiadau i’r bardd John Jones (Ioan Tegid, 1792-1852) ‘for other Welsh words’. Mae’r alaw ganoloesol yn crwydro ar hyd y modd doraidd wrth i’r bugail sôn am ei waith ‘yn gwylio’r defaid gyda’r ŵyn’. Mae’n clywed llais ei gariad yn y llwyn ac mae’r byd yn cwympo i ffwrdd mor gyfareddus ydi hi.

6. Y Bachgen Main

Un o’m hoff ganeuon werin, clywais i hi yn gyntaf o ganu Julie Murphy ac rwyf wedi bod yn ei chanu ers y dechrau. Mae’r gân yn ymddangos ar daflennau baled gynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn adrodd stori’r bachgen main, sy’n clustfeinio ar ei gariad a’i mam un bore. Mae’r fam yn annog y ferch i beidio caru’r bachgen main, ond mae hi’n aros yn ffyddlon iddo hyd at y diwedd trychinebus. Yn aml fydd lluniau ar y daflen faled yn dangos y bachgen main yn ei het sidan, wasgod, cot gynffon fain a ffon.

7. Beth yw’r haf i mi?

Un o alawon enwocaf y traddodiad Cymreig, ychwanegwyd y geiriau gan T.H. ac Amy Parry-Williams. Mae dyn yn canu am ei alar ers i’w  gariad ei adael. Er ei bod hi’n haf, mae’n ‘gaeaf llwm a dagrau’n llu’ iddo. Mae gan y gân yma awyrgylch clawstroffobig, gyda’r haf yn ffynnu tu fas i’r ffenest, a’r adroddwr methu denu unrhyw lawenydd iddo’i hun. Cefais fy nenu yn ôl at y gân yma yn aml yn ystod misoedd twym y pandemig, pan nad oeddwn allu teithio neu hyd yn oed gadael y tŷ.

8. Dafydd y Garreg Wen

Cyfansoddiad enwog David Owen (1712-1741) o fferm Y Garreg Wen ger Morfa Bychan. Yn ôl y traddodiad, cyfansoddwyd hi ar ei wely angau ac mae’r geiriau ychwanegodd John Ceiriog Huws (1832-1887) dros ganrif wedyn yn adlewyrchu’r hanes hwnnw. Ond i mi, yr alaw sydd mor bwerus, yn brudd ond yn brydferth a llawn angerdd, galar ac urddas. Does dim offeryn gwell na’r soddgrwth i gario dôn fel hon ac yngvf nghyfnos y gân mae’n codi i lefain dros holl drallodion y blynyddoedd diwethaf.

Alawon a geiriau traddodiadol, heblaw ail bennill ‘Nid wyf yn llon’; geiriau gan Gareth Bonello

Trefnwyd a pherfformiwyd pob cân ar bob offeryn gan Gareth Bonello

Recordiwyd, Peirianwyd a Chymysgwyd gan Frank Naughton, Tŷ Drwg Studios
Mastro gan Sion Orgon, Digitalflesh Audio Mastering
Lluniau gan Rhodri Brooks Photography
Dylunio gan Richard Chitty, Ctrl Alt Design

Diolch o galon – Frank Naughton, Rich Chitty, Georgia Ruth, Jen Gallichan, Sion Orgon, Andy Fung, Rhodri Brooks, Llio Rhydderch, Bob Evans, Gwenan Gibbard, Nia Mai Daniel, GIG Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Elan Links, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, BBC Radio Cymru, Eos

GarethBonello