Khasi-Cymru Collective – ‘Sai-thaiñ ki Sur
Pleser ydy cyhoeddi bod albwm cyntaf y Khasi-Cymru Collective; ‘Sai-thaiñ ki Sur (SAI-THAN-CI-SWR) nawr ar gael ar label Naxos World. Ystyr y teitl yw ‘plethu lleisiau’ a dewiswyd gan Lapdiang Syiem, bardd a pherfformiwr o Shillong, prifddinas talaith Meghalaya.
Mae pobl Khasi yn rhifo tua 50% o boblogaeth Meghalaya ac yn frodorol i Ogledd Ddwyrain India, ardal sy’n gartref i dros 220 i grwpiau ethnig gwahanol a’r un nifer, os nad mwy o ieithoedd. Gwlad o fynyddoedd hardd, rhaeadrau ysblennydd a dyffrynnoedd gwyrddion, ystyr Meghalaya yw ‘Preswylfa’r Cymylau’ yn Sansgrit. Mae tywalltiadau trymion yn gyffredin am ran fwyaf o’r flwyddyn a gall sawl pentref yn yr ucheldiroedd yn hawlio’r teitl o fan glwpa’r byd. Amddiffynnwyd diwylliant unigryw Khasi gan y tirlun yma am genedlaethau, gan gynnwys system famlinachol o etifeddiaeth a’r grefydd wreiddiol Ka Niam Khasi. Esiampl brin o iaith Awstroasiataidd yn India ydy’r iaith Khasi, sy’n perthyn yn agosach at ieithoedd De Ddwyrain Asia megis Fietnameg a Chmereg. Rhwng 1841 a 1969, teithiodd cannoedd o Gymry i Fryniau Khasia a Jaiñtia i sefydlu a chynnal cenhadaeth tramor cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig. Cafodd y genhadaeth Gymreig effeithiau dwfn ar gymdeithas a diwylliant Khasi sydd dal i’w gweld heddiw.
Lait Lum, East Khasi Hills
Mae’r albwm yn cynrychioli tair blynedd o gydweithio gydag artistiaid Khasi.
Ers 2016 rwyf wedi bod yn rhan o brosiect ymchwil ‘Deialogau Diwylliannol Cymreig a Chasi’, wedi’i gydlynu o Brifysgol De Cymru sy’n cefnogi cydweithio creadigol rhwng artistiaid o Gymru a Meghalaya. O dan oruchwyliaeth yr Athro Lisa Lewis fe gyflawnais ddoethuriaeth mewn cerddoriaeth a pherfformio, gyda rhan fawr yn canolbwyntio ar ymchwil ymarferol (neu ‘jamio’ sydd well gen i!) gydag artistiaid Khasi. Rhwng 2017 a 2020 roeddwn yn ymweld â Meghalaya yn rheolaidd ac yn aros am sawl wythnos ar y tro o gwmpas y brifddinas brysur Shillong. Yn ystod yr ymweliadau yma fed ddes i nabod cerddorion, artistiaid, academyddion, gyrwyr tacsi, ffermwyr a llawer mwy o’r gymuned Khasi. Fe ddes i nabod y sin gerddoriaeth yn Shillong, a dwi wedi perfformio sawl gwaith yn y ddinas mewn clybiau ac ar ddwy orsaf radio; Red FM Shillong a Big FM North East.
Recordiwyd y rhan fwyaf o ‘Sai-thaiñ ki Sur yn ninas Shillong ac mewn pentrefi o amgylch Meghalaya. Mae’r albwm yn denu ar len a chaneuon gwerin, emynau, barddoniaeth, hunaniaeth a thraddodiadau’r ddwy gymdeithas. Mae’r gerddoriaeth yn plethu amryw o leisiau o Feghalaya ac yn cynrychioli detholiad o’r gerddoriaeth wnaethom ysgrifennu a recordio gyda’n gilydd. Recordiwyd rhai o’r traciau yn fyw ym mhentref Pahambir ac mewn hen dy cenhadol ym Mawkhar. Recordiwyd eraill mewn stiwdio yn Shillong; Merliham Arrangements, gyda Peter Dkhar ac ychwanegodd Llion Robertson y darnau olaf a micsio’r albwm gorffenedig o Gaerdydd.
Diolch i’r cerddor a chrefftwr medrus Risingbor Kurkalang, cefais afael ar Duitara, offeryn llinynnol sy’n hollbresennol yn niwylliant Khasi, wedi’i greu allan o bren y goeden jac U Dieng Slang. Rwy’n hynod o ddiolchgar i Rising am fy nghyflwyno i gerddoriaeth gwerin Khasi a chyfansoddiadau Skendrowell Syiemlieh ar Duitara. Rwy’n ddyledus i Meban Lyngdoh hefyd, gan iddo gymryd yr amser i jamio ac i ddysgu’r patrymau rhythmig sydd mor nodweddiadol o’r Duitara Khasi i mi. Perfformiais set gyda Meban ar raglen Big FM nol ym mis Tachwedd 2018. Rwyf wrth fy modd bod perfformiadau gan Meban a Rising ar yr offeryn arbennig yma i’w clywed ar sawl trac ar yr albwm yma. Yn draddodiadol, mae’r Duitara yn gyfeiliant i hanesion a chaneuon gwerin o amgylch Ka Rympei, yr aelwyd Khasi. Mae’r offeryn yn rhan allweddol o’r traddodiad llafar sydd yn hollbwysig i ddiwylliant cyfoes Khasi.
Rwyf wedi derbyn y fraint o dreulio amser o amgylch sawl aelwyd Khasi, yn enwedig ym mhentref Pahambir, ble fues yn ymweld gyda’r llen-gwerinwr uchel ei glod Desmond Kharmawphlang. Roedd hi’n fraint i ddysgu am gerddoriaeth a diwylliant Khasi wrth y cerddor a’r crefftwr Rani Maring. Gellir clywed Rani yn chwarae’r Maryngod (offeryn gyda bwa, tebyg i ffidil) ar y can prydferth ‘Ka Sit Tula’, mewn harmoni gyda llais cyfareddol Jewel Syngkli. Wnâi fyth anghofio’r perfformiad yna, na’r achlysur pan aeth Prit a Jai Makri, dwy henuriad o’r pentref arddangos eu sgiliau ar y Muiñ, offeryn bambŵ a chwaraewyd gyda’r geg.
Daeth hanesion werin yn ffocws pwysig o sawl cydweithrediad, yn enwedig gyda’r ffliwtydd adnabyddus Benedict Hynñiewta, y bardd Lapdiang Syiem a’r cerddor Apkyrmenskhem Tangsong. Yn yr hen dy genhadu ym Mawkhar byddwn i, Lapdiang a Kyrmen yn cwrdd i arbrofi drwy gyfuno barddoniaeth, cerddoriaeth a hanesion mewn ystafell a oedd unwaith yn llety i genhadon Cymraeg a thröedigion Khasi. Seiliodd Benedict a finnau’r gan ‘Hediad Ka Likai’ ar hanes Ka Likai, chwedl drychinebus o’r traddodiad Khasi. Roedd barddoniaeth a hanesion gwerin yn rhan flaengar o’r drafodaeth ges i gyda’r beirdd Khasi Esther Syiem a Desmond Kharmawphlang.
Yn 2019 a 2020 es i ar daith o amgylch Cymru ac India gyda’r ddrama Perfformio’r Daith, sioe drama cyfarwyddwyd gan Lisa Lewis. Roedd Benedict a Lapdiang yn rhan o’r sioe hefyd, a chafwyd amser i ddatblygu ein cydweithio ymhellach, gan arbrofi wrth gyfuno cerddoriaeth i berfformiadau Lapdiang a’r actor Cymraeg Rhys ap Trefor.
Ysgrifennais y gan ‘Kam Pher’ gyda Desmond Sunn, cerddor a DJ ar Red FM yn Shillong. Ysgrifennwyd y gan mewn brys un noswaith mewn coedwig tu allan I Shillong, wrth i ni geisio cwpla cyn i’r oerni disgyn! Mor bell â y gwn i dyma’r gan gyntaf i fod yn yr iaith Khasi, Cymraeg a Saesneg.
Felly o’r grŵp gwasgaredig yma o artistiaid ac academyddion ganwyd y Khasi-Cymru Collective. Wrth edych nôl ar y cyfnod trwy lens annifyr Covid, mae’n teimlo fel bywyd person arall, blynyddoedd yn ôl. Serch hynny, rwy’n obeithiol fe welwn lawer mwy o gydweithio rhwng artistiaid o Gymru a Bryniau Khasia a Jaiñtia yn y dyfodol.
Hoffwn ddweud diolch o galon, khublei shibun i’r holl bobl hyfryd wnaeth gwneud y record yma’n bosib, mae hi wedi bod yn siwrne a hanner ac rwy’n deall yn iawn pa mor freintiedig ydwyf am dderbyn y cyfle yma. Edrychaf ymlaen at ddyddiau tecach, pan fydd ein lleisiau yn plethu mewn aer y mynyddoedd unwaith eto.
Mae ‘Sai-thaiñ ki Sur (Plethu Lleisiau) ar gael o fama.