Recordiau Newydd, Hen Recordiau, Gigs, Cychod ac Artistiaid
Mae ‘di bod sbel ers i mi sgwennu unrhyw beth yma felly meddwl dylwn iste lawr a sôn am ychydig o’r hyn sy ‘di bod yn mynd ‘mlaen yn ddiweddar, a beth sydd ar y gweill hefyd. Felly os ydy hynny’n diddori, dilynwch y geiriau isod gyda’ch llygaid…
Y Gwyfyn & Dydd Miwsig Cymru 2018
Dwi wrth fy modd i gyhoeddi bod record newydd gen i’n dod mas i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2018.. Mae Bubblewrap Records a finnau yn rhyddhau Y Gwyfyn EP ac yn lawnsio’r record mewn gig yn Castle Emporiumgyda llond llaw o artistiaid arbennig Cymreig, gan gynnwys DJ Garmon, Papur Wal, Y Cledrau, Eadyth, Mellt, Los Blancos a’r chwedlonol Meic Stevens!
Daw trac cyntaf yr EP, ‘Y Gwyfyn’ oddi ar Ruins/Adfeilion, yr albwm wnaeth (*ahem*) ennill y Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn ddiweddar. Ceir hefyd cyfieithiad Gymraeg o ‘The Fisherman’. Mae yna tair gan newydd ar yr albwm gan gynnwys fersiwn newydd o’r gan werin Cariad Cyntaf, a darn offerynnol sy’n disgrifio golwg tylluan o greaduriaid y goedwig yn crwydro yn y lloergan.
Y Bardd Anfarwol & Pontio Bangor
Mor falch i allu cyhoeddi hefyd bod Y Bardd Anfarwol, yr albwm wnes i ar y cyd gyda cherddorion y Chengdu Associated Theatre of Performing Arts wedi cael ei ail brintio o’r diwedd! Dwi’n hapus dros ben i ddweud fy mod i’n perfformio’r albwm yn ei gyfanrwydd gyda’r band, pedwarawd llinynnol y Mavron Quartet a cherddorion Tsieineaidd traddodiadol Lei Yuan a Zining Wang yn Pontio Bangor ar Chwefror 16ed. Hoffwn bwysleisio mor brin yw’r cyfle yma i glywed yr albwm fel y mai ar y record, gyda’r llinynnau a’r offeryniaeth Tsieineaidd. Digon bosib na ddigwyddiff byth eto! Mae tocynnau ar gael yma.
Ymgyrch Elusennol – Diolch!
Pob flwyddyn dwi’n gwerthu recordiau digidol ar Bandcamp ac yn rhoi holl arian mis Rhagfyr yn ogystal ag unrhyw ffioedd perfformio i achosion da. Eleni roeddwn yn codi arian ar gyfer Shelter Cymru ac Oasis Cardiff. Dwi’n hynod o ddiolchgar i bawb wnaeth cyfrannu ac anfon negeseuon o gymorth ac yn falch i gyhoeddi wnaethon ni godi dros £210, gydag arian ychwannegol dal i ddod diolch i sylw ar y radio. Felly diolch yn fawr i chi i gyd!
Cappello Holiday & The Boat Studio
Os ydych yn fy nilyn ar Instagram (ghbonello_ffoto os y chi’n ffond o dirluniau pert a lluniau aneglur o gigs) falle eich bod yn gwybod gwnes i dreulio bach o amser yn sgrifennu ar y cyd gyda cherddorion hynod o dalentog ar gwch gamlas ar ddechrau mis Ionawr. Yn ymuno a finnau a thrafferth enwog Tongwynlais Eugene Capper oedd dwy gantores ryngwladol arbennig; Lydia Hol o Ganada ac Ida Wenøe o Ddenmarc. Rhan o gyfnod preswyl ar brosiect celfyddydol gwych o’r enw The Boat Studio oedd yr holl antur.
Mae’r cwch bach esmwyth yma o bren, metel a breuddwydion anghyfyngedig yn llithro ar hyd camlesi’r ffindiroedd fel crocodeil celfyddydol, yn cynnig llety ac ysbrydoliaeth i bob math o artistiaid. Sgwennon ni ganeuon, fe jamiwyd a choginiwyd ac mae’n bosib i ni feddwi’n rhacs un noswaith hefyd. Fe orffenwyd popeth bant drwy ffurfio band o’r enw Cappello Holiday a pherfformio’r deunydd newydd mewn gig bythgofiadwy yn The Big Top yng nghanol Caerdydd. Diolch i bawb wnaeth ymladd yn erbyn gwynt a glaw miniog Ionawr i ddod i’r gig – roedd hi’n noswaith arbennig ac roedd e’n meddwl lot bod siwt gymaint wedi troi lan! Diolch enfawr hefyd i Amber Mottram ac Ellie Young, crewyr a pherchnogion The Boat Studio am edrych ar ein holau ac am ein dychwelyd adre’n saff.
Wedi i ni addasu nôl i fywyd ar dir sych aethon ni draw at Bubblewrap HQ i ffilmio gyda On Par Productions. Mae sawl fideo i ddod ond yn y cyfamser dyma Ida a finnau yn dehongli campwaith o farddoniaeth a cherddoriaeth Daneg gan BS Ingemann a Carl Nielsen.
Gigs
Gan bo fi’n astudio am PhD ar y foment ac yn stryglan i gofio fy nghaneuon fy hun, dwi’n mynd i dorri nôl ar y gigio eleni. Modd bynnag, dydy hyn ddim yn golygu fy mod i fynd o stopio’n gyfan gwbl, ond jest bo fi mynd i ddewis y gigs cŵl. Felly ewch i’r dudalen gigs i weld pa gigs sy’n cŵl yn 2018.
Diolch am ddarllen! Cadwch lygad mas am fwy o newyddion cyn bo hir!