Ruins/Adfeilion Allan Hydref 14eg!
Dwi wrth fy modd i gyhoeddi y bydd yr albwm newydd Ruis/Adfeilion allan ar ddydd Gwener y 14eg o Hydref. Dyma fy mhedwerydd albwm a’r record gyntaf i ddod allan ers Y Bardd Anfarwol nol yn 2013. Dwi’n hynod o falch i fod yn rhyddhau gyda Bubblewrap Records unwaith eto; mae’r label wedi bod yn gefnogol iawn a Richard Chitty o’r label sydd hefyd yn gyfrifol am y gwaith celf drawiadol. Gallwch rhag-archebu eich copi o’r albwm o wefan Bubblewrap nawr!
Casgliad o ganeuon wedi eu sgwennu o amgylch thema adfeilion yw’r albwm newydd. Cafodd ei recordio dros gyfnod o 5 diwrnod mis Ionawr yma yn stiwdio brydferth Dylan Fowler sef Stiwdio Felin Fach yn yn Y Fenni. Fel ar albymau olynol, cafodd Ruins/Adfeilion ei recordio a’i gymysgu gan y cynhyrchydd talentog Llion Robertson. Recordiwyd yn bennaf yn fyw, mae’r albwm yn arddangos doniau Jack Egglestone ar y drymiau, Callum Duggan ar y bas, Georgia Ruth ar delyn a llais a Dylan Fowler ar lap steel a mandocello. Mae’r Mavron Quartet hefyd i’w clywed ar y record yn perfformio trefniannau arbennig Seb Goldfinch yn ogystal ag adran bres fychan wedi eu neud lan o Tomos Williams ar drymped, Fiona Bassett ar y corn Ffrengig a Ceri Jones ar drombôn.
Does dim angen dweud fy mod yn hynod o hapus i fod yn rhyddhau record newydd ac yn edrych ymlaen at berfformio’r caneuon newydd cyn bo hir. Hoffwn ddiolch i bawb wnaeth gyfrannu ac i Rich a Bubblewrap am eu holl gymorth. Hoffwn hefyd ddiolch i PRS for Music Foundation am ariannnu yn rhannol costau recordio’r albwm, cyfraniad defnyddiol iawn!