Ruins/Adfeilion ar rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2017
Falch iawn oeddwn i dderbyn enwebiad ar gyfer y Gwobr Gerddoriaeth Gymreig eleni. Gyda’r enillydd yn cael ei gyhoeddi’r wythnos yma, roeddwn moyn cymryd eiliad i ddweud diolch o waelod calon i bawb wnaeth helpu creu’r albwm.
Cefais amser gwych yn recordio yn Stiwdio Felin fach, Y Fenni llynedd, a hoffwn ddiolch yn fawr i Dylan Fowler am ei gyfraniad yn y stiwdio ac i Llion Robertson am eu holl waith yn cynhyrchu’r record. Rhaid hefyd diolch yn fawr i Seb Goldfinch am ei drefniannau llinynnol a phres ac i’r holl gerddorion gwych wnaeth cyfrannu: Jack Egglestone, Callum Duggan, Georgia Ruth Williams, Dylan Fowler, Fiona Bassett, Ceri Jones, Tomos Williams a phedwarawd llinynnol y Mavron Quartet.
Mae dyled fawr o ddiolch arnaf i Richard Chitty o Bubblewrap Records am ei waith celf arbennig ac am gael yr hyder i ryddhau’r albwm – ac ar CD a Finyl hefyd! Mae’n fraint allu ryddhau record sy’n edrych mor ddeniadol. Hoffwn ddiolch hefyd i PRSF am gyfrannu at y broses recordio, hebddynt dwi’n amau byddai’r albwm wedi gweld golau dydd.
Rwy’n un o 12 band ar restr fer hynod y gryf sy’n cynnwys rhai o’m hoff recordiau o’r flwyddyn ddiwethaf. Mae’n wych gweld y sin yng Nghymru yn parhau i dyfu, a bod y cynnyrch mor amrywiol, prydferth a ddifyr ag erioed. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi nos Wener y 20fed o Hydref yng Nghaerdydd – Pob lwc i bawb ar y rhestr fer!
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am yr artistiaid sydd ar yr rhestr.