The Gentle Good yn fyw ar Sioe Gwerin BBC Radio 2!
Dwi’n falch iawn i gyhoeddi y bydd The Gentle Good yn ymddangos ar Y Sioe Gwerin ar BBC Radio 2 gyda Mark Radcliffe dydd Mercher nesaf Tachwedd y 23ain. Bydd talentau sylweddol Georgia Ruth, Jordan Price Williams a Jennifer Gallichan yn cadw cwmni i mi, a fyddwn yn cael sgwrs fach hefyd mae’n siŵr. Cawsom ymarfer a phryd o gawl neithiwr ac rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at y sioe!
Byddwn ar yr awyr rhwng 7 ag 8yh ac yn perfformio tair gan o’r albwm newydd. Os hoffech chi wrando dyma’r linc i’r sioe…
The Gentle Good yn fyw ar Sioe Gwerin BBC Radio 2
