BWR071 (LP/CD) PRE-ORDER. OUT 08.09.23 Argraffiad Cyfyngedig Vinyl Trwm mewn Llawes Tip-on £25.00 CD mewn digisleeve £10.00
Fe fydd mis Medi 2023 yn gweld rhyddhad Galargan, 5ed albwm hir disgwyliedig y cantor o Gaerdydd, The Gentle Good. Casgliad cynnil o ganeuon gwerin Cymreig sydd ar yr albwm, wedi’u perfformio gyda gitâr acwstig llais a’r soddgrwth. Trefnwyd y caneuon yn ystod arwahanrwydd y pandemig ac mae’r record wedi’i drwytho gan deimladau o brudd-der dihangol sy’n deillio o alar yr amseroedd hyn.
Mae’r record yn dechre yn y dechre, ar doriad y wawr. Pan own i ar foreddydd: yn nodau agoriadol y gitâr, r’yn ni’n clywed y gwlith, yn berlau bychain ar wyneb y dail; sŵn y gwanwyn yn gwthio’i hunan lan o’r pridd; a’r cerddwr unig yn mynd am dro drwy’r cynefin sy’n annwyl iddo.
A ni’n ffeindio’n hunan yn gofyn: lle galle galar ffitio mewn byd sydd mor wyrdd, mor llawn o obaith a golau?
Galargan: hen ganeuon, wedi’u gosod a’u dehongli gan y cerddor pan oedd y byd dan glo, pan oedd pethau fel colled, anobaith ac ofn yn teimlo’n fwy real nag erioed. Pan roedd pobol annwyl yn diflannu. Pan roedd dicter yn cymysgu hefo’r dŵr, a phawb jyst yn teimlo fel se’ nhw’n sgrechian fewn i’r düwch. Mewn cyfnodau fel hyn, pan s’dim geiriau, mae’r hen ganeuon yn awgrymu eu hunain: wastad yn berthnasol, wastad hefo rhywbeth newydd i ddatgelu.
Daw llawer o ganeuon Galargan o gasgliadau ac ysgrifau amhrisiadwy Meredydd Evans a Phyllis Kinney yn y Llyfrgell Genedlaethol. Nid wyf yn llon, er enghraifft – cân a ganwyd gan garcharor yng ngharchar Dolgellau. Clywn ei lais mewn ystafell lle nad yw deffroad y gwanwyn ond atgof pell trwy furiau llaith hen gell. Mae’r anobaith yn ymestyn ar draws y canrifoedd; am eiliad mae yna gysylltiad â’r dyn dienw hwn, bron fel pe baem yn rhannu’r gell ag ef.
Ymlaen â ni, eto, trwy wyrddni rhyw fore ddisglair arall ar Pan own y gwanwyn, gyda’r alaw annaearol na, sy’n gwrthod pob ymdrech i’w dala hi. I Beth yw’r haf i mi? sy’n swnio bron fel cân fado yn fan hyn, cyn i‘r soddgrwth wylo yng nghyfnos Dafydd y Garreg Wen.
Falle mai naturioldeb y gerddoriaeth sy’n creu’r lledrith hyn. Wedi’u crefftio mewn cegin yng Nghaerdydd, ac mewn bwthyn mâs yn eangdiroedd gwyllt Cwm Elan (lle’r oedd y cerddor hefo neb ond ei hunan yn gwmni iddo), mae trefniant y caneuon yn syml. Weithie, ni’n clywed y sielo – fel yr haul yn dod mâs o du ôl i’r cwmwl, yn llenwi’r byd gyda disgleirdeb eto – ond, y gitâr a’r llais sy’n gyson, ac yn drawiadol.
Ond beth ddaw ar ôl galar? A all fod goleuni a chysur? Gwyddom, y daw’r gwanwyn yn ôl – mae pwrpas a gwirionedd yn yr hen garol Mai; Mae’r Ddaear yn glasu, mae’n dawel ac yn dirion trwy ganu a chwarae cerddor sy’n rhadlon hyd yn oed wrth ddelio ‘da’r pethau tywyll.
Caneuon Traddodiadol wedi’i threfnu a’i pherfformio gan Gareth Bonello
Recordiwyd, Peiriannwyd a Chymysgwyd gan Frank Naughton, Stiwdios Tŷ Drwg
Mastro gan Sion Orgon, Digitalflesh Audio Mastering
Lluniau gan Rhodri Brooks Photography
Gwaith Celf gan Richard Chitty, Ctrl Alt Design
Galargan
£10.00 – £25.00
BWR071 (LP/CD) PRE-ORDER. OUT 08.09.23
Argraffiad Cyfyngedig Vinyl Trwm mewn Llawes Tip-on £25.00
CD mewn digisleeve £10.00
Fe fydd mis Medi 2023 yn gweld rhyddhad Galargan, 5ed albwm hir disgwyliedig y cantor o Gaerdydd, The Gentle Good. Casgliad cynnil o ganeuon gwerin Cymreig sydd ar yr albwm, wedi’u perfformio gyda gitâr acwstig llais a’r soddgrwth. Trefnwyd y caneuon yn ystod arwahanrwydd y pandemig ac mae’r record wedi’i drwytho gan deimladau o brudd-der dihangol sy’n deillio o alar yr amseroedd hyn.
Description
Mae’r record yn dechre yn y dechre, ar doriad y wawr. Pan own i ar foreddydd: yn nodau agoriadol y gitâr, r’yn ni’n clywed y gwlith, yn berlau bychain ar wyneb y dail; sŵn y gwanwyn yn gwthio’i hunan lan o’r pridd; a’r cerddwr unig yn mynd am dro drwy’r cynefin sy’n annwyl iddo.
A ni’n ffeindio’n hunan yn gofyn: lle galle galar ffitio mewn byd sydd mor wyrdd, mor llawn o obaith a golau?
Galargan: hen ganeuon, wedi’u gosod a’u dehongli gan y cerddor pan oedd y byd dan glo, pan oedd pethau fel colled, anobaith ac ofn yn teimlo’n fwy real nag erioed. Pan roedd pobol annwyl yn diflannu. Pan roedd dicter yn cymysgu hefo’r dŵr, a phawb jyst yn teimlo fel se’ nhw’n sgrechian fewn i’r düwch. Mewn cyfnodau fel hyn, pan s’dim geiriau, mae’r hen ganeuon yn awgrymu eu hunain: wastad yn berthnasol, wastad hefo rhywbeth newydd i ddatgelu.
Daw llawer o ganeuon Galargan o gasgliadau ac ysgrifau amhrisiadwy Meredydd Evans a Phyllis Kinney yn y Llyfrgell Genedlaethol. Nid wyf yn llon, er enghraifft – cân a ganwyd gan garcharor yng ngharchar Dolgellau. Clywn ei lais mewn ystafell lle nad yw deffroad y gwanwyn ond atgof pell trwy furiau llaith hen gell. Mae’r anobaith yn ymestyn ar draws y canrifoedd; am eiliad mae yna gysylltiad â’r dyn dienw hwn, bron fel pe baem yn rhannu’r gell ag ef.
Ymlaen â ni, eto, trwy wyrddni rhyw fore ddisglair arall ar Pan own y gwanwyn, gyda’r alaw annaearol na, sy’n gwrthod pob ymdrech i’w dala hi. I Beth yw’r haf i mi? sy’n swnio bron fel cân fado yn fan hyn, cyn i‘r soddgrwth wylo yng nghyfnos Dafydd y Garreg Wen.
Falle mai naturioldeb y gerddoriaeth sy’n creu’r lledrith hyn. Wedi’u crefftio mewn cegin yng Nghaerdydd, ac mewn bwthyn mâs yn eangdiroedd gwyllt Cwm Elan (lle’r oedd y cerddor hefo neb ond ei hunan yn gwmni iddo), mae trefniant y caneuon yn syml. Weithie, ni’n clywed y sielo – fel yr haul yn dod mâs o du ôl i’r cwmwl, yn llenwi’r byd gyda disgleirdeb eto – ond, y gitâr a’r llais sy’n gyson, ac yn drawiadol.
Ond beth ddaw ar ôl galar? A all fod goleuni a chysur? Gwyddom, y daw’r gwanwyn yn ôl – mae pwrpas a gwirionedd yn yr hen garol Mai; Mae’r Ddaear yn glasu, mae’n dawel ac yn dirion trwy ganu a chwarae cerddor sy’n rhadlon hyd yn oed wrth ddelio ‘da’r pethau tywyll.
Caneuon Traddodiadol wedi’i threfnu a’i pherfformio gan Gareth Bonello
Recordiwyd, Peiriannwyd a Chymysgwyd gan Frank Naughton, Stiwdios Tŷ Drwg
Mastro gan Sion Orgon, Digitalflesh Audio Mastering
Lluniau gan Rhodri Brooks Photography
Gwaith Celf gan Richard Chitty, Ctrl Alt Design
Additional information
Vinyl, CD
Related products
Y Bardd Anfarwol
£5.00 Add to cartY Gwyfyn
£4.00 – £8.00 Select options This product has multiple variants. The options may be chosen on the product pageCrys-T The Gentle Good wedi’i frodio
£20.00 Select options This product has multiple variants. The options may be chosen on the product page