Lawnsio Ruins/Adfeilion!
Daeth yr albwm newydd Ruins/Adfeilion mas canol mis Hydref! I ddathlu rydym yn cynnal noswaith lawnsio yn eglwys St John’s yn Nhreganna, Caerdydd ar nos Wener Tachwedd yr 11eg. Mi fydd hi’n noswaith fythgofiadwy, yn arbennig gan mai dyma’r unig gyfle i weld yr albwm yn cael ei berfformio gyda band llawn, llinynnau a phres yn union fel sydd ar y record!
Gallwch brynu tocynnau drwy glicio YMA
Mae’r adolygiadau wedi dechrau cyrraedd hefyd – dyma ddetholiad o ddyfyniadau mewn italics. Heb gael un Gymraeg eto am wn i.
“…an artist deserving of far wider recognition, this album shows why.” fRoots
“As graceful and delicately performed folk record as you’ll hear.” **** Buzz Magazine
“(a) humble treasury of songs for change.” **** Shindig!
“an absorbing, thoughtful and ultimately forward-looking collection of songs which perfectly showcase Gareth’s flawless musicianship and creative vision” Folk Radio UK
“Gareth Bonello has crafted another striking album” From the Margins
“Gareth Bonello meets the ugliness of the contemporary world with songs full of elegant beauty” **** Americana UK
“songs that swirl around you in a beautiful haze. Not to be missed.” Artree